"Creu Mêl" gan Aneirin Karadoc
Creu Mêl
(i ddathlu Gouel Broadel ar Brezhoneg, 2019, sef Gŵyl Genedlaethol y Llydaweg
sydd eleni wedi gefeillio gyda Thafwyl.)
Bu rhai ar ras, fel gwenyn, mor brysur
yn hel paill da i helpu Llydawyr
i heidio yn siaradwyr a chreu si
ac yn ei sain hi cawn godi gwydyr.
Cawn barhau i’w siarad, cyn brysured,
fesul blodyn bob blwyddyn heb ludded
am mai gŵyl lle mae i’w gweled fan hyn,
yn fêl ein gwenyn, yw haf Langoned.
Gouel Broadel yn baradwys, ynys
bellennig i orffwys
rhag y dydd a’i Ffrang-reg dwys.
Gouel Broadel rhag i bryder fwyta
ein haf eto’n ganser,
yn don amheuon drwy’r mêr.
Gouel Broadel dros barhad neithdar hen
iaith dra hardd yr henwlad
a Diwan i’w blodeuad.
Nid yw Gouel Broadel yn gweld breuder,
nid lle di-hid, ond Llydaw o hyder
rhag trengi’r si, hi yw’r her, wenyn gwlad:
o greu mêl, wastad, fe geir melyster.
Aneirin Karadog
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mehefin 2019 - Aneirin Karadog—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer Mehefin 2019 yw Aneirin Karadog.
Mwy o glipiau Ffion Dafis
-
Sŵn Buwch Mewn Dwy Iaith!
Hyd: 07:49