Main content
                
    Ar ddiwrnod olaf blwyddyn ysgol arall
Mae blwyddyn arall 'di gwibio heibio, 
a dillad a sgidia y plantos 'di shrincio. 
Pawb yn ffarwelio am hoe fach haeddiannol: 
gyda chwtsh neu bawen lawen, am adra o'r ysgol. 
Athrawon, ddisgyblion, mae hon i chi, 
am weithio mor galed am fsoedd di-ri - 
'da chi gyd yn sêr, bob un wan jac, 
felly ffich i'r wisg ysgol a chodwch eich pac! 
Mae Steddfod Llanrwst, Sioe Môn, a lan-môr 
yn galw amdanoch, da chi'n gwbod y sgôr: 
joiwch, ymlaciwch, bwytwch, trochwch 
yn heulwen fs Awst a llawen y byddwch. 
Ac er fod pob rhiant pryderus yn gwbod 
fod chwech wsos yn hir heb strwythur i'r diwrnod, 
bydd mis Medi ar ein trothwy cyn i ni droi, 
felly bloeddiwn HWRÊ fod drws ysgol yn cloi! 
Manon Awst
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()  - Bardd Gorffennaf 2019 - Manon Awst—Gwybodaeth- Bardd Radio Cymru ar gyfer Gorffennaf 2019 yw Manon Awst. 
 
         
             
 
             
             
            