Main content
Cerdd "Amgen" Geraint Lovgreen
Amgen
Dwi’m isio bod yn roc’n’rôl,
dwi’m isio bod yn pop,
dwi’m isio bod yn rap na soul
na sgiffl na hip-hop,
dwi’m isio bod yn techno
nag yn jazz nag R’n’B,
dwi isio bod yn rhywbeth
sydd yn well na rhein i gyd.
Dwi’m isio bod yn ganu gwlad
na reggae, dub, na ska,
na grime, be-bop nac avant-garde
na swing na cha-cha-cha,
dwi’m isio bod yn heavy metal,
disco, grunge na funk,
na new wave, old wave, gwerin, house,
na drum’n’bass na pync.
Na, dwisio bod yn Amgen
achos dyna lle mae’r swyn,
dwisio cydnabyddiaeth
a chael lle yn siart Rhys Mwyn.
Dwisio bod yn amgen,
beth bynnag ydi hynny,
mae’n anodd ei ddiffinio
felly na’i jyst neud o fyny.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Casgliad amlgyfrannog "Ap Elvis"
-
Casgliad amlgyfrannog "Ap Elvis"
Hyd: 15:22
Mwy o glipiau Rhys Mwyn
-
Cofio Barry Cawley
Hyd: 19:30