Caryl Parry Jones
Y cerddor, cyflwynydd a chyfneither Non, Caryl Parry Jones, yw gwestai cyntaf y gyfres.
Fel diddanwr, cerddor a chyflwynydd, Caryl Parry Jones yw un o wynebau mwyaf adnabyddus a dylanwadol y byd adloniant Cymreig. Mae hi’n gyfrifol am gyfoeth o anthemau pop cyfoes a’n llais cyfarwydd ar Sioe Frecwast Radio Cymru 2.
Ers ei phlentyndod yn cystadlu mewn eisteddfodau mae Caryl wedi byw gyda chyfnodau o or-bryder ac iselder.
Yn y bennod yma mae’n sôn am sut mae agweddau at iechyd meddwl wedi newid ers ei phlentyndod a'r adegau o'i bywyd pan y gwnaeth hi ddioddef. O'r coleg a dyddiau cynnar ei gyrfa hyd heddiw mae Caryl yn rhannu’r pethau mae hi wedi ei weld yn anodd.
Mae Caryl a Non hefyd yn rhannu eu profiadau fel rhieni yn trafod iechyd meddwl gyda'u plant.
Podcast
-
Digon
Digon yw digon, wrth i Non Parry ddweud ei bod hi’n amser am sgwrs onest am iechyd meddwl