Main content
Dylan Cernyw
Y telynor Dylan Cernyw sy'n cadw cwmni i Non Parry i drafod bywyd ac iechyd meddwl.
Yn y bennod yma caiff Non gwmni’r telynor Dylan Cernyw. Mae Dylan yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau Cymru yn cyfeilio i rai o'n cantorion a chorau mwyaf adnabyddus. Mae hefyd yn rhan o’r ddeuawd boblogaidd Piantel.
Mewn sgwrs agored, mae Dylan yn rhannu ei brofiadau fel dyn ifanc yn brwydro anhwylder bwyta, a’r effaith mae hyn wedi cael arno drwy gydol ei fywyd.
Mae Non hefyd yn rhannu ei phrofiadau o hunanddelwedd, a’r rhagfarn mae hi wedi ei wynebu ar gyfnodau o’i gyrfa fel menyw yn llygad y cyhoedd.
Podcast
-
Digon
Digon yw digon, wrth i Non Parry ddweud ei bod hi’n amser am sgwrs onest am iechyd meddwl