Main content

David R Edwards

David R Edwards (23.6.21)

Gwaith bardd go wir
yw herio’r harddwch
hyll â’i gân,

byw i weld ein rhagrith rhwydd
a gweithio’i gerdd yn rheg
o’r galon bur.

Dave oedd prifardd gwir ein gwlad
a’i gerddi’n wreichion nos,
ei eiriau’n falm wrth losgi’n lân,
yn gân i Gymru gyfan.

DIM DEDDF, DIM EIDDO.
GWLAD AR FY NGHEFN.
Y TEIMLAD a MAES E.

Fe’i gwelaf nawr,
y llun o hyd fel codi bys at
nonsens gwag ein bod -

picnic iach mewn mynwent ddu,
gwledd ymhlith y beddau,
Dave yn fardd hyd fôn ei fysedd
hir.

Paid cysgu. Cana. Gad i’th eiriau
losgi ynom byth.

Gwion Hallam

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud