Sion Aled Owen Bardd Mis Hydref - Cerdd ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.
Dathliad
Ar Ddydd Cenedlaethol Barddoniaeth
dyma fi’n meddwl:
pryd ges innau ’ngeni’n fardd?
Ai wrth ddiflasu’n llwyr ar adrodd ac ailadrodd ryw hen stori
am dedi’n hedfan mewn balŵn
yn nosbarth y babis?
Oeddwn i’n trio dweud fy nweud
bryd hynny
heb gêr y geiriau?
Neu fallai yng ngwersi cyffrous
‘intensive writing’ Mrs Pari-Jones yn David Hughes?
Bardd yr iaith fain fyddwn gynta’ felly.
Ond tybed mai Mr Arwel Jones,
yr athro Cymraeg roedd gas ganddo ‘Welsh’,
a gamodd i swydd y fydwraig
wrth ddatgloi dirgelion y gynghanedd yn Fform Ffôr?
Ynte a arhosais yn y groth ryddieithol, wir,
hyd ddyddiau creadigol chwil
y Gelli Aur,
ac Iwan Llwyd, Wil Garn ac Emyr Lewis
yn frodyr yn y feithrinfa?
Wn i ddim.
Felly waeth i heddiw fod
i minnau’n ddydd fy nathlu
ac yn ddydd pen-blwydd barddoniaeth i ni oll.
Cyfarchion y gerdd i bawb.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Bore Cothi
-
'Mae di bod yn siwrne wych' - Greg Caine
Hyd: 06:10
-
Ydi hi'n ta ta i'r twmpath? - Eifion Price
Hyd: 02:43