Main content
"Coch" gan Casi Wyn, Bardd Plant Cymru
Coch
Coch lliw y gwawrio,
coch lliw y ddraig,
coch lliw y rhosyn
sy’n tyfu drwy’r graig.
Coch lliw y galon,
coch lliw y gan,
coch lliw yr angerdd,
sy’n cynnau ein tan.
Coch sy’n carlamu,
coch sy’n cyffroi,
coch sydd yn tynnu,
a choch sydd yn rhoi.
Ond cochach na rhain
yw’r coch ar ein crys,
coch sydd yn gariad,
yn ferw o chwys.
Dyma goch Cymru,
yn wreichion i gyd,
y coch a’n harweinia
at Gwpan y Byd!
Casi Wyn, Bardd Plant Cymru