"Digartrefedd ddim yn bell o unrhyw un ohonom"
Beti George yn sgwrsio gyda Siân Elen Tomos. Fel Prif Weithredwr GISDA mae Siân yn rheoli ac arwain GISDA ers Hydref 2011 i sicrhau gwasanaeth o ansawdd i bobl ifanc bregus yng Ngogledd Cymru. Law yn llaw gyda hynny mae Siân yn ceisio sicrhau parhad mewn gwahanol wasanaethau drwy geisio am grantiau a thendro am arian.
Cyn ymuno a’r tîm yn GISDA roedd Siân yn gweithio fel gweithiwr Cymdeithasol yng ngwasanaethau plant Cyngor Gwynedd, aeth yna ymlaen i fod yn Rheolwr Tîm yng ngwasanaeth i blant anabl yng Ngwynedd.
Yn enedigol o Ddeiniolen, mynychodd Ysgol Gwaun Gynfi, ac Ysgol Uwchradd Brynrefail, mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon.
Mae ei diddordebau yn cynnwys cerdded, bod allan yn yr awyr agored, teithio, materion cymunedol a gwleidyddiaeth, ac mae hi'n rhannu straeon bywyd ac yn dewis ambell i gan sydd yn agos at ei chalon.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Beti a'i Phobol
-
Gethin Evans yn son am apnoea cwsg.
Hyd: 02:00
-
Beti a'i Phobol Ian Keith Jones
Hyd: 03:44
-
" Lle ni'n gosod y celfyddydau fel cenedl ?"
Hyd: 04:32