"whirlwind romance, dyna yw'r geiria!"
Beks - Rebekah James yw gwestai Beti George, cyn cyflwynydd Radio Cymru sydd bellach yn byw yn Hong Kong.
Ganwyd Beks yng Nghaerdydd. Aeth i Ysgol Bryntaf ag yna i Ysgol y Wern, Llanisien. Yna i Glanaf am ychydig fisoedd cyn i'r teulu symud i Abertawe ac wedyn bu'n mynychu Ysgol Ystalyfera. Roedd ei thad yn gweithio yn y banc.
20 mlynedd nol roedd hi'n un o sêr Radio Cymru, ac yn mentro ac yn torri cwys ei hun, ond fe chwalodd yr uchelgais wrth iddi gyfarfod a'i gwr, Rhodri ac o fewn dim roedd hi wedi gwerthu ei thŷ a'i char ac ar ei ffordd i fyw gydag ef i Hong Kong.
Eleni fe fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50, mae hi'n sôn am ei theulu, ei bywyd yn Hong Kong a'r sefyllfa sydd ar hyn o bryd yna yn sgil y covid.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Beti a'i Phobol
-
Mari Huws - bywyd ar Ynys Enlli
Hyd: 02:45
-
Nolwenn Korbell a'r Llydaweg
Hyd: 03:13
-
Marcus Whitfield - mynd ati i ddysgu Cymraeg
Hyd: 04:06