Main content

Disgwyl Enfys gan Elinor Wyn Reynolds

Disgwyl Enfys

Ar ddiwrnod caleidosgop o liw fel hwn
ble mae’r awyr yn las,
y glaswellt yn wyrdd,
a’r crysau’n goch ar gefn pob menyw gwerth ei halen,
mi welwn enfys yn codi o fan y tu hwnt i’n gobeithion
ac mi daflith siâp bwa’n berffaith at y nod,
fel rhwydo pêl yn giwt i gôl,
yn wyrthiol.

Heddiw, mi wyliwn ninnau’n gegrwth
nes credu’n llwyr, fel un wraig,
yng ngallu’r cawresi hyn i chwalu’r graig
a churo’u gwrthwynebwyr,
eu sgubo o’r neilltu’n slic,
bron fel tric,
mewn storm o fellt byw a fflach-ddawnsio,
ffliciau troed fflash a gwyllt-wibio
nes cipio cwpan yn drysor gwerth ei gael
i sŵn curo dwylo fel cawod o law
rhywle o du draw i’r enfys.

Elinor Wyn Reynolds

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o