Main content

Anthropoleg, De America ac Israel

Sylvia Davies amgylchedd wraig a sefydlodd ei chwmni ei hun Eto Eto yw gwestai Beti George. Mae hi'n creu bagiau ac ategolion allan o wastraff fydda fel arall yn mynd i'r domen sbwriel. Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn gwnïo, dysgodd wnïo pan oedd hi’n 4 oed ac roedd ei Mam yn arfer gwnïo dillad iddi hi a’i chwaer. Fe wnïodd Sylvia ei ffrog briodas ei hun. Roedd gwnïo felly yn rhywbeth oedd yn ei chysylltu hi a’i mam. Sgil bywyd a ddysgodd ganddi, ac yn dilyn ei marwolaeth fe ddaeth yn llinyn cyswllt ac yn ffordd o ddygymod a’r galar.
Bu Sylvia yn byw a gweithio yn Israel ac yn Thailand a hynny ar ôl astudio ei gradd mewn Anthropoleg yn y Brifysgol yn Llundain. Bu'n dipyn o rebel yn ei harddegau, ac mae hi'n rhannu'r straeon ei bywyd cynnar yng Nghaerfyrddin. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau