Pwy sydd angen Harry Kane pan mae gen ti Hanna Cain?
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu perfformiadau merched Cymru a'r cynnydd o dan y rheolwr Rhian Wilkinson.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu perfformiadau a chanlyniadau merched Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd a'r cynnydd o dan y rheolwr Rhian Wilkinson.
Er gwaethaf dwy gêm gyfartal oddi cartref, mae Caerdydd yn parhau yn y safleoedd disgyn yn y Bencampwriaeth. Ydi'r cefnogwyr wedi colli gobaith yn barod?
Mae'r momentwm tuag at ddyrchafiad yn parhau yn Wrecsam - mae eu dynged yn eu dwylo eu hun ar ôl i Wycombe ollwng rhag o bwyntiau.
Ac am y tro cyntaf erioed yn hanes y podlediad, mae ffocws Mal yn cael ei chwalu wrth weld ci yn neud ei fusnes yn ei ardd ffrynt.
Podcast
-
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.