Main content

Yr actor, cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr Rhys Miles Thomas sy'n rhannu sut y gwnaeth diagnosis o Sglerosis Ymledol herio ei fyd proffesiynol a'i fywyd personol.

Mae Rhys Miles Thomas wastad wedi eisiau gwneud pethau'n wahanol. Ers pan yn fachgen o Alma, yn Sir Gaerfyrddin, fe ymdrechodd i roi gogwydd gwahanol ar y traddodiadol a herio drwy rannu ei neges ei hun.

Gyda gyrfa lwyddiannus fel actor, cynhyrchydd, cyfarwyddwr, coreograffydd ac awdur, roedd ei ddyfodol yn ddisglair ar lwyfan byd-eang.

Er hyn fe ddaeth diagnosis o Sglerosis Ymledol, i'w herio yn ei fyd proffesiynol a'i fywyd personol. Gyda sawl blwyddyn heb symptomau, fe gynyddodd her y cyflwr gan gyfyngu ar ei allu i wneud tasgau y byddai wedi eu gwneud heb drafferth ychydig flynyddoedd ynghynt. Daw pwysigrwydd cefnogaeth deuluol i'r amlwg, ond hefyd y rhwystredigaethau a ddaw yn ei sgil.

Mae stori Rhys yn onest, yn feirniadol ar adegau ac yn amrwd. Gyda hyn, cawn obaith, gweledigaeth glir a deheuad am fyd cynhwysol a chyfartal i'r gymuned anabl. Hyn oll, wrth i'r byd 'Feddwl Yn Wahanol' am anabledd.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

48 o funudau

Dan sylw yn...

Podlediad