Main content

Ifan Evans yn cyfarfod un o sêr yr Eisteddfod

Roedd Guto o Ysgol Bro Lleu yn edrych 'mlaen at roi'r gorau i ymarfer llefaru gyda'i fam ar ôl y Steddfod Cylch... ond fe enillodd yno, ac yn yr Eisteddfod Sir. A nawr mae'n bencampwr cenedlaethol ar ôl dod i'r brig yng nghystadleuaeth Llefaru Unigol Bl.3 a 4 ddoe!

Cafodd Guto a'i rieni sgwrs gydag Ifan Evans ar y maes, ar ôl y canlyniad brynhawn Llun, a soniodd fod ei dad am wneud 'silff sbesial' iddo gadw ei dlws a'i fedal arni.

Ymlaen at Ynys Môn flwyddyn nesa'?

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau