Croeso Kpakio!
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod carfan Cymru i wynebu Liechtenstein a Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.
Ronan Kpakio oedd yr enw annisgwyl i'w gynnwys gan Craig Bellamy yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Liechtenstein a Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Chwe ymddangosiad yn unig sydd gan yr amddiffynnwr dros Gaerdydd, ond Bellamy yn proffwydo gyrfa ddisglair i'r chwaraewr 19 mlwydd oed.
Cyn y gemau hynny, bydd ymgyrch tîm Rhian Wilkinson yn dod i ben yng Nghynghrair y Cenhedloedd - dau gyfle olaf i geisio curo un o fawrion Ewrop cyn Ewro 2025. Fydd Sophie Ingle ar yr awyren i'r Swistir?
Mae 'na Gymro wrth y llyw yng Nghasnewydd... a Chymraes swnllyd yn dod efo fo!
Podcast
-
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.