Main content

Ffydd, Gobaith, Cariad

Dwy gêm Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 sy'n cael prif sylw Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen.

Rhyfedd sut mae colled gallu teimlo mor dda a buddugoliaeth mor siomedig. Bu bron i ni weld un o ganlyniadau gorau yn hanes Cymru yng Ngwlad Belg wrth frwydro nôl o dair gôl i lawr, ond gadael yn waglaw bu'n rhaid gwneud. Tridiau yng nghynt, digon fflat oedd yr ymateb ar ôl curo Liechtenstein o dair gôl i ddim. O ganlyniad, mae Cymru wedi disgyn i ail yn y grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.

Pa wersi ddysgodd Craig Bellamy o'r ddwy gêm? Pa mor arwyddocaol fydd peidio cymryd pwyntiau oddi ar Wlad Belg? Pam na allith Kevin de Bruyne ddim ymddeol?!

A pam bod Caerdydd yn cael gymaint o drafferth i benodi rheolwr? Mae gan Malcolm neges arbennig i Vincent Tan...

Release date:

11 months left to listen

43 minutes

Featured in...

Podcast