Main content
Ewro 2025: Yr aros mawr bron ar ben
Dylan Griffiths, Malcolm Allen, Owain Tudur Jones a Kath Morgan sy'n trafod gobeithion Cymru yn erbyn prif dimau Ewrop yn Mhencampwriaeth Ewrop 2025.
Mae Kath Morgan wedi cyrraedd Y Swistir - ac mae'r emosiynau'n hedfan. Bron i 20 mlynedd ers iddi roi'r gorau i chwarae dros ei gwlad, prin fod Kath yn gallu coelio bod Cymru yn cystadlu ymysg prif dimau Ewrop am y tro cyntaf. Fydd hyn yn gam rhy bell i'r merched? Fydd Sophie Ingle yn cychwyn y gêm gyntaf? Pa mor bwysig fydd profiad Rhian Wilkinson yn arwain y garfan? Mae 'na lot i drafod efo Dyl, Ows a Mal!
Podcast
-
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.