Main content
Ewro 2025: Cymru (ac OTJ) yn teimlo gwres Y Swistir
Mae'r criw yn cael cwmni Gwennan Harries i ddadansoddi perfformiad agoriadol Cymru wrth golli 3-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Ewro 2025 yn Y Swistir.
Oedd yr emosiwn yn ormod? Oedd tactegau Rhian Wilkinson yn anghywir? Oes rhaid derbyn bod Cymru lefel yn is na goreuon Ewrop? Dyna rai o'r cwestiynau i'w hateb wrth i gyn flaenwr Cymru Gwennan Harries ymuno gyda Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i ddadansoddi'r golled o 3-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Ewro 2025.
Ond y cwestiwn pwysicaf oll - pam bod OTJ wedi dychryn am ei fywyd mewn sawna..?!
Podcast
-
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.