Main content

Ewro 2025: Jess, pwy arall?!

Dylan Griffiths, Malcolm Allen, Owain Tudur Jones a Catrin Heledd sy'n gweld digon o reswm i ddathlu er gwaethaf colled Cymru o 4-1 yn erbyn Ffrainc yn Y Swistir.

Fel y disgwyl, roedd Ffrainc yn rhy gryf i Gymru ond roedd digon o reswm i ddathlu. Roedd wyneb Jess Fishlock, ac ymateb yr holl garfan, yn adrodd cyfrolau wrth iddi ddathlu sgorio gôl gyntaf Cymru yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop... a chreu record newydd yn y broses fel y sgoriwr hynaf yn hanes yn gystadleuaeth.

Catrin Heledd sy'n ymuno efo Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i ddadansoddi noson hanesyddol i Gymru, ac edrych ymlaen at yr her olaf yn erbyn yr hen elyn.

Release date:

11 months left to listen

39 minutes

Podcast