Sgwrsio: Hans Obma
'Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn, yng nghwmni Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.
Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Hans Obma sydd yn actor ac yn ysgrifennwr.
Mae Hans yn enedigol o Wisconsin yng ngogledd yr Unol Daleithiau a bellach yn byw yn Los Angeles.
Fe benderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod bod ei fam-gu yn byw ym Mrynmawr, Blaenau Gwent cyn symud i America ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Treuliodd haf 2023 yn dysgu'r iaith ar gwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi iddo ddychwelyd i America mae'n parhau i ddysgu trwy ddilyn cwrs ar-lein.
Dan sylw yn...
Podlediadau Cymraeg
Detholiad o bodlediadau Cymraeg ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Sounds
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.