Main content

Gobaith, gwynt a glaw ar faes Eisteddfod Wrecsam

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n cael cwmni ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam wrth i dymor y Bencampwriaeth agosáu.

Cyn hir, mi fydd Wrecsam yn chwarae yn ail haen pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf mewn 43 o flynyddoedd. Lle gwell, felly, i drafod gobeithion a disgwyliadau'r clwb nag ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam? Ac er gwaetha'r gwynt a'r glaw, mae Dylan, Mal ac Ows yn cael cwmni tri aelod o'r clwb. Yn gyntaf, sgwrs efo Huw Birkhead, sydd yn dysgu Cymraeg i chwaraewyr, staff a chefnogwyr y clwb. Ac yna Cledwyn Ashford, y sgowt a'r gwirfoddolwr sydd wedi gwneud cymaint dros y clwb. Ac mae ganddo egsliwsif neu ddau i rannu hefyd...

Mi fydd tymor Abertawe hefyd yn cychwyn ddydd Sadwrn. Oes 'na obaith am fwy na thymor arall yng nghanol y tabl? A beth fydd effaith mewnbwn Snoop Dogg a Luka Modric? Ac wrth gwrs, mae'r tymor wedi cychwyn yn barod i Gaerdydd a Chasnewydd.

Release date:

11 months left to listen

39 minutes

Podcast