Main content

Cip i'r dyfodol wrth i Ganada danio Bellamy

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n canmol to ifanc Cymru er colli gêm gyfeillgar yn erbyn tîm graenus Canada.

Roedd 'na gyfle i gael cip o'r dyfodol yn Abertawe wrth i rai o chwaraewyr ifanc Cymru wynebu tîm graenus Canada mewn gêm gyfeillgar. Ac er colli 1-0, mi welodd y criw ddigon i gredu bod 'na genhedlaeth newydd yn barod i dorri drwodd. Digon i'r rheolwr Craig Bellamy - doedd ddim rhy hapus gyda dathliadau'r ymwelwyr - asesu cyn y ddwy her enfawr i ddod yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg fis nesaf.

Nôl i'r bara menyn dros y penwythnos wrth i'r gemau clybiau ddychwelyd, a chyfle i Wrecsam ac Abertawe gynnwys rhai o'r chwaraewyr arwyddodd ar ddiwedd y ffenestr drosglwyddo am y tro cyntaf.

Release date:

11 months left to listen

48 minutes

Podcast