Main content

Gwalia United ar garlam i gyrraedd y brig

Casi Gregson a Trystan Bevan sy'n trafod cynlluniau uchelgeisiol Gwalia United gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.

Mae gan Gwalia United gynlluniau uchelgeisiol iawn. Stadiwm newydd, chwaraewyr yng ngharfan Cymru ac, yn bennaf oll, cyrraedd prif adran clybiau Lloegr, y Women's Super League. Hyn oll o fewn y pum mlynedd nesaf.

Dau yng nghanol y prosiect ydi Trystan Bevan a Casi Gregson. Tra bod Trystan yn defnyddio ei brofiad helaeth ym myd rygbi proffesiynol i geisio gosod y sylfaen am gynnydd a llwyddiant oddi ar y cae, sgorio goliau yw nod Casi er mwyn cychwyn y daith o drydedd haen Lloegr i'r brig. Mae'r ddau yn esbonio wrth Ows a Mal sut yn union maen nhw'n bwriadu gwneud hynny...

Release date:

10 months left to listen

54 minutes

Podcast