Main content

Gwen y Wrach a Fi

Gwenllian Ellis sy’n darganfod mwy am Gwen ferch Ellis, y wrach a gafodd ei chrogi. Gwenllian Ellis finds out more about Gwen ferch Ellis, the first Welsh witch to be executed.

Mae Gwenllian Ellis, neu Gwen, wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am Gwen Ellis arall. Yn 1594 cafodd Gwen ferch Ellis o Landyrnog ei chrogi ar grocbren sgwâr Dinbych ar gyhuddiad o fod yn wrach. Hi oedd y person cyntaf i gael ei chrogi am witshgrafft yng Nghymru.

Yn y podlediad, Gwen y Wrach a Fi, mae Gwenllian Ellis yn mynd ar daith i ddarganfod pwy oedd Gwen y ferch, y chwaer, y ffrind, y wraig, y swynwraig a’r iachawraig, a pham rhoi’r gosb eithaf iddi.

O ymweld â sgwâr Dinbych lle dreuliodd hi ei heiliadau olaf, i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle mae cofnodion llys Gwen yn cael eu cadw, i Eglwys Llansanffraid ger Glan Conwy lle casglodd tystion i roi tystiolaeth yn ei herbyn, mae Gwenllian yn dod i ddeall mwy am stori Gwen a beth mae ei hanes yn ei ddweud wrthi am fod yn ferch heddiw.

Ar ei thaith mae’n cael cwmni Holly Gierke, Ruth Williams, Dr Gareth Evans Jones, Dr David Moore a Siân Melangell Dafydd.

Cyflwynydd: Gwenllian Ellis
Cynhyrchydd: Anna George
Sain: Richard Durrell

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

56 o funudau

Dan Sylw

  • .

Dan sylw yn...

Podlediad