ÃÛÑ¿´«Ã½

Bryn Fôn

Bryn Fôn

Diolch i Sain am y llun

Gwrandewch ar atebion Bryn Fôn i holiadur C2

Gwestai arbennig Daf Du ar Chwefror 19 oedd y canwr a'r actor Bryn Fôn. Yn wyneb cyfarwydd o gyfresi teledu fel Talcen Caled, C'mon Midffild, Tipyn o Stad, Yr Heliwr, Yma i Aros....

Mae Bryn hefyd yn enwog, wrth gwrs, fel canwr poblogaidd - yn dechrau ei yrfa gyda'r grwp Crysbas (a ganodd yr enwog 'Draenog Marw'), wedyn gyda Sobin a'r Smaeliaid, ond yn fwy diweddar fel canwr unigol.

Mae o'n dal i ddenu cannoedd o ffans i'w gigs, yn ymwelydd cyson â , a mae 'na ddisgwyl mawr i'w albym newydd ddod allan yn hwyrach yn y flwyddyn. Dyma'r caneuon ddewisodd Bryn ar C2:

Cân o Blentyndod: Geraint Jarman - Merch Ty Cyngor

Cân Carioci: Elvis - Love me Tender

Cân Torri Calon: Super Furries - Y Teimlad

Cân yn y Car: Leonard Cohen - Here it is

Cân nos Wener: Celt - Stop Eject

Cân Snog Gyntaf: Rolling Stones - Get off my Cloud

Cân Creu Argraff ar Ferch: Yazz - The Only Way is Up

Cân Gyntaf mewn Parti: Maharishi - Ware'n Noeth

Cas Gân: Unrhywbeth gan y Moniars

Albym Gorau: Mim Twm Llai - O'r Sbensh

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.