ÃÛÑ¿´«Ã½

13 Rhif Lwcus i'r Hogia' o Flaenau!

Anweledig

Anweledig

1992 - Geni Anweledig
Tair blynedd ar ddeg yn ôl, daeth criw o ffrindiau at ei gilydd yng nhysgod y Moelwyn, a chreu'r band Anweledig. Ar ôl rhyddhau eu halbym cyntaf Sombreros yn y Glaw yn '98, cafodd chweched crynoddisg y band sef Byw ei ryddhau y llynedd.

A sut mae Anweledig yn bwriadu dathlu'r garreg filltir draddodiadol anlwcus yma?

Wel, mewn gig Cymdeithas yr Iaith ym Mangor ar nos Iau yr Eisteddfod. Mae'r band wedi penderfynu perfformio un cân o'u heiddo o bob blwyddyn ers 1992.

A'r rheswm tu ôl y syniad yma?

'Roedden ni'n awyddus i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol eleni, felly mi benderfynon ni yn buasen ni'n perfformio ein hoff gân ni o bob blywddyn rydan ni wedi bod efo'n gilydd mewn trefn gronolegol. Gobeithio bydd pobl yn mwynhau cael clywed rhai caneuon na fyddwn ni'n eu gwneud yn aml iawn erbyn hyn - dwi'n sicir yn edrych ymlaen i'w perfformio nhw!'
Ceri Cunnington, prif leisydd Anweledig

Mi fydd Anweledig hefyd yn perfformio ar y nos Sadwrn olaf ym Maes B, ac ym Miri Madog penwythnos ar ôl y 'Steddfod.

Am fanylion llawn am gigs Anweledig haf yma,

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.