ÃÛÑ¿´«Ã½

Gŵyl y Cenhedloedd Bychain

Genod Droog

Pwy fasa'n meddwl fod Gŵyl o'i bath wedi cychwyn yng ngardd cefn Richard a Thelma Turner bedair blynedd yn ôl. Ers 2003 mae Gŵyl y Cenhedloedd Bycain wedi ail-gartrefu yn Fferm Glangwenlais, Cil y Cwm ger Llanymddyfri.

Fel mae enw'r Ŵyl yn ei awgrymu, gŵyl ryngwladol ydi hi sy'n canolbwyntio ar ieithoedd lleiafrifol ac yn dathlu cerddoriaeth o wledydd bychain y byd.(gan gynnwys Cymru!)

Eleni mae'r Å´yl yn cael ei chynnal ar benwythnos 7 - 9 Gorffennaf, ac mae'n gyfle gwych i glywed cerddoriaeth draddodiadol, clasurol, roc, pop a gwerin o bob cwr o'r byd.
Rhai o'r bandiau fu'n cynrychioli Cymru yn yr Å´yl yn Nyffryn Tywi y llynedd, oedd Brigyn, Llwybr Llaethog a Lowri Evans.

Eleni tro y Genod Droog, Fflur Dafydd a Bob Delyn a'i Ebillion yw hi i roi cerddoriaeth Cymru ar y map rhyngwladol.

Ymysg yr artistiaid eraill fydd yno - mae y Chwiorydd Bisserou o Fwlgaria, Justin Vali o Fadagasgar, Ioan Pop o Romania a Chimani Mani o Zimbabwe.

Mae tocynnau ar gyfer yr Å´yl yn mynd ar werth ar Ebrill 24. Mae manylion am docynnau, llefydd aros a'r holl artistiaid fydd yn perfformio dros y penwythnos ar wefan yr Å´yl.

Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.