ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,28 Oct 2016,30 mins

Bob Tai'r Felin

Dwyn i Gof

Available for over a year

Melinwr ac amaethwr a dreuliodd ei oes ar aelwyd Tai'r Felin yng Nghwm Tir Mynach ger Y Bala oedd Bob Roberts, ond daeth yn ganwr a baledwr enwog gydag apêl tebyg i ganwr pop diolch i gyfres radio Noson Lawen. Llais pellennig ar hen record yn canu'n llawn hwyl ac arddeliad oedd unig argraff Llŷr Gwyn Lewis ohono cyn iddo ddechrau sgwrsio â rhai o'r bobl a gafodd y fraint o'i nabod. Mae Dafydd Iwan yn sôn amdano'n creu argraff arno pan oedd ond yn blentyn bach, a'r cyffro yr oedd o'n ei deimlo wrth i Bob Roberts ddod i Frynaman i berfformio. Mae Carys Jones o Roslan ger Cricieth yn medru rhannu atgofion personol ac amhrisiadwy iawn ohono fel taid. Er ei bod hi'n ifanc iawn pan fu farw yn 1951, mae'n ei gofio'n ei gwarchod ac yn canu wrth wneud. Un arall sy'n dwyn i gof yng nghwmni Llŷr ydi Cledwyn Jones o Driawd y Coleg. Mae yntau hefyd yn sôn am garisma Bob Tai'r Felin, a'r ffaith ei fod yn denu merched fel gwenyn i bot jam! Cawn flas ar ei ddireidi, cynhesrwydd a dawn, a syniad da o'i apêl arbennig ledled Cymru'n ystod ail hanner y 1940au.

Programme Website
More episodes