Episode details

Available for over a year
Yn drysor o le i rai a dirgelwch llwyr i eraill, mae Cors Erddreiniog nepell o Langefni ar Ynys Môn. Hon yw cors fwya'r ynys, ac un o'r pwysicaf yn Ewrop o safbwynt y gwyddonydd. Bethan Wyn Jones a'r ymgynghorydd amgylcheddol a natur Dyfrig Jones sy'n ymuno â Iolo Williams a Kelvin Jones y tro hwn, ac maen nhw'n cyfarfod ag Emyr Humphries sy'n rheoli safle'r gors. Yn ogystal â chrwydro er mwyn edrych ar fotaneg gyfoethog y gors a hela gwiberod, mae'r criw yn trafod sut mae corsydd yn ffurfio, y gwahanol gorsydd sydd i'w cael, a pham fod corsydd ymhlith y pwysicaf o gynefinoedd naturiol sydd yn bod.
Programme Website