ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,11 Nov 2016,30 mins

Available for over a year

Os nad ydi'r enw Albert Evans-Jones yn golygu rhyw lawer i chi, siawns fod ei enw barddol Cynan yn fwy adnabyddus. Yn Archdderwydd ddwywaith - yr unig berson yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol i gael ei ethol i'r swydd ddwywaith - mae Cynan yn cael ei gofio am weddnewid y drefn a'r seremonïau, ac am ei ran allweddol wrth ddiwygio'r Orsedd. Yn y rhaglen hon, mae Llŷr Gwyn Lewis yn sgwrsio â rhai o'r bobl a gafodd y fraint o nabod Cynan, gan gynnwys ei nith Mair Williams. Mae'n cofio ewythr arbennig iawn, ei hoffter o urddas a threfn, a'i berfformiadau ar yr aelwyd deuluol. Nid dweud stori oedd Cynan, ond actio. Ychydig cyn iddo farw'n 100 oed, cafodd Llŷr sgwrs gyda John Roberts. Roedd cyn-drefnydd yr Eisteddfod yn ystyried Cynan yn gyfaill agos a chynnes iawn a oedd yn sgwrsio'n rhydd am bob math o bethau. Mae Hywel Gwynfryn yn barod iawn i gydnabod nad oedd ei berfformiad yntau yn Absolon Fy Mab, un o ddramâu Cynan, ymysg y goreuon. Er hynny, cafodd gynnig brechdan gan y dramodydd ar drên o Fangor i Gaerdydd - taith sy'n dal yn fyw yn y cof. Potel o siampên, nid brechdan, oedd rhodd Cynan i Margaret Williams. Roedd y ffaith fod y gantores yn dod o Frynsiencyn ar Ynys Môn yn ei blesio'n fawr. Rhwng popeth, cawn ddarlun o'r Cynan cyhoeddus a'r Cynan preifat. Yng nghanol yr urddas a'r awdurdod, roedd yn barod iawn i gael hwyl hefyd, a does dim dwywaith iddo gyfrannu'n fawr i fywyd diwylliannol y genedl.

Programme Website
More episodes