Episode details

Available for over a year
Ar fore heulog, braf, ble well na chopa Mynydd Mawr - pegwn uchaf Uwchmynydd ym mhen eithaf Penrhyn Llyn - i gyfarfod a thrafod rhyfeddod, gwyddoniaeth a dirgelion creaduriaid mudol. Yn anffodus, does dim golwg o'r haul nac o fawr ddim arall wrth i griw Gwarchod y Gwyllt gyrraedd yn barod i recordio. Ar ôl dechrau'r rhaglen yn y gwynt main a'r niwl tew yn nhalcen hen wylfa Gwylwyr y Glannau, mae'n rhaid cilio i gysgod mwy gwahoddgar Porth Meudwy tua hanner milltir yn is i lawr. Yn ymuno â Iolo Williams y tro hwn mae Bethan Wyn Jones, Kelvin Jones a Dyfrig Jones. Hefyd, Nia Haf Jones o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, sydd yn arbenigwraig ar famaliaid y môr.
Programme Website