Episode details

Available for over a year
Prin fod neb yn sylwi arno wrth yrru i lawr o Ben-y-Gwryd tuag at Feddgelert, ond mae'n werth ymweld â Chwm Dyli, petai ond i gael ychydig o seibiant rhag prysurdeb yr A498 a bwrlwm llethrau'r Wyddfa. Mae 'na gyfoeth o hanes a bywyd gwyllt i'w weld yn y cwm bychan hwn, fel y mae Iolo Williams yn ei ddarganfod wrth fentro i lawr yno yng nghwmni Bethan Wyn Jones, Kelvin Jones a Hywel Roberts.
Programme Website