ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,05 Nov 2018,27 mins

Rhyfel yn yr Awyr

Cymry 1914-1918

Available for over a year

Daeth y Rhyfel Byd Cyntaf â dull newydd o ryfela a lladd, drwy fynd â'r ymladd i'r awyr. Roedd hedfan yn newydd, y dechnoleg yn gyntefig, a doedd dim disgwyl i beilotiaid fyw'n hir. Gwasanaethodd rhyw 22,000 o beilotiaid yn lluoedd Prydain yn ystod y Rhyfel. Cafodd hanner ohonyn nhw eu lladd. Yn y rhaglen hon, cawn hanes rhai Cymry a wasanaethodd yn y math newydd hwn o frwydro. Unig blentyn oedd yr Is-gapten Rhys Beynon Davies o Henllan, Llandysul. Ar y cyntaf o Fai 1917, roedd yn hedfan mewn awyren Albatross yn ardal Arras, a chafodd ei ladd pan ffrwydrodd y tanc petrol mewn ymosodiad.

Programme Website
More episodes