Episode details

Available for over a year
Yn y rhaglen hon, mae Siân Sutton yn rhoi pwyslais ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a barodd dros bedair blynedd. Clywn am y llawenydd a'r rhyddhad, ond hefyd am rai a fyddai'n byw hyd ddiwedd eu hoes yng nghysgod y gwrthdaro. Wrth i rai ddathlu'r cadoediad, roedd Harriet Anne Pritchard yn ei chartref yn Rhuthun yn dygymod â cholli gŵr, ac yn wynebu magu eu plentyn cyntaf ar ei phen ei hun. Cafodd Bill Pritchard ei eni fis ar ôl i William Griffith Pritchard gael ei ladd ym Mrwydr Cambrai, ac er na welodd ei dad erioed, roedd yn bresenoldeb cyson drwy'i fywyd. Siaradodd ei fam amdano'n aml, ac i Bill roedd yn rhywun i'w efelychu.
Programme Website