Episode details

Available for over a year
Gerallt Pennant yn trafod Wythnos Ymwybyddiaeth Gwenoliaid Duon a hanes Canolfan Ryngwladol Adnoddau Daear Glyn Rhonwy gyda Math Williams a Ben Stammers. Siôn Dafis yn sôn am flodyn prin ar y Gogarth sy’n dibynnu ar wyfynod, a beth fedrwn ni wneud i helpu peillwyr yn gyffredinol. Dr Gethin Thomas a Dr Jess Mead Silvester yn trafod ymwelwyr tymhorol i'n moroedd, pysgod yr haul Mola mola, sydd wedi bod yn heidio cryn dipyn wrth i'r dŵr gynhesu.
Programme Website