ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,08 Jun 2025,48 mins

Jess Davies

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Beti George sy'n cael cwmni Jess Davies sydd wedi ymddangos mewn cylchgronau Nuts a ZOO fel 'glamour model' ond sydd bellach yn ymgyrchu dros hawliau merched a'i diogelwch ar y we. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio gyda gwleidyddion yn San Steffan ar fesur sydd yn mynd drwy'r senedd i wella diogelwch ar y we. Mae hi wedi cael profiadau gwael ei hun, mae lluniau o'r model a'r cyflwynydd o Aberystwyth wedi cael eu camddefnyddio cannoedd o weithiau ar-lein. Mae hi hefyd wedi derbyn llu o negeseuon amhriodol gan ddynion ar-lein ac mae ei phrofiadau wedi arwain iddi ysgrifennu llyfr sy'n ceisio egluro casineb at fenywod ar-lein. Cawn hanesion ei bywyd ac mae'n dewis 4 darn o gerddoriaeth gan gynnwys cân Croeso I Gymru - Tara Bandito, gan iddi symud i Gymru yn 6 mlwydd oed a dysgu'r iaith.

Programme Website
More episodes