ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,03 Aug 2025,46 mins

LlÅ·r Williams

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Beti George sydd yn holi'r pianydd sydd yn adnabyddus trwy'r byd, Llŷr Williams. Cafodd ei fagu yn Pentre Bychan, Wrecsam ac mae dal i fyw yno. Mae wedi perfformio mewn neuaddau megis Carnegie Hall, Efrog Newydd, ac wedi llenwi neuadd fawr yn y Moscow Conservatory, Rwsia. Mae wedi teithio i berfformio'n Tokyo a Mecsico ac yn rhannu eu straeon difyr. Mynychodd Ysgol Gynradd ID Hooson yn Rhosllannerchrugog, cyn mynd ymlaen i Ysgol Uwchradd Morgan Llwyd. Yn Dilyn pynciau Cerddoriaeth, Cymraeg a Saesneg, cyn mynd ymlaen i gael gradd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines yn Rhydychen (Queens College Oxford) ac yna yn gorffen ei addysg yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Fe wnaeth Llŷr basio gradd 8 ar y piano yn 11 mlwydd oed, ac fe gafodd "distinction" ymhob un. Mae'n ymarfer y piano am 6 awr y dydd - ac yn dal i ddarganfod pethau newydd, ac yn mwynhau cerdded yn ei amser sbâr i ymlacio.

Programme Website
More episodes