ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,28 Sep 2025,48 mins

Dr Celyn Kenny

Beti a'i Phobol

Available for over a year

A hithau'n Fis Ymwybyddiaeth Canser Plant, mae Beti George yn holi Dr Celyn Kenny. Meddyg sydd yn gweithio gyda phlant sy'n dioddef o ganser yw Celyn. Doedd hi ddim yn hawdd iddi gael lle ar y cwrs Oncoleg Plant gan fod 'na gyfyngu ar y nifer, ond llwyddodd i ddod yn gyntaf drwy Brydain. Mae hi newydd dreulio chwe mis yn Ysbyty Great Ormond Street, a bellach mae hi'n ôl yn gweithio ar Ward Arch Noa yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Mae hi hefyd yn darlithio ar y cwrs meddygaeth - cyfrwng Cymraeg, sydd yn bwysig iawn iddi, ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn un o'r meddygon ar raglen 'Prynhawn Da' ar S4C.

Programme Website
More episodes