Episode details

Radio Cymru,05 Oct 2025,56 mins
Gŵyl Ffilm Iris, premier byd-eang offeren goll Caradog Roberts, ail-ddychmygu ein cerddoriaeth draddodiaol
Ffion DafisAvailable for 3 days
Mae Ffion yn cael cwmni yr artist Gwynfor Griffiths yn Oriel Môn, Llangefni. Ac yntau yn 91 oed, mae Gwynfor yn dal i greu yn ddyddiol ac mae ganddo arddangosfa yn yr oriel ar hyn o bryd. Mae adolygiad gan y cerddor Bethan Antur o bremier byd-eang o Offeren ddarganfuwyd yn ddiweddar wedi ei chyfansoddi gan y cyfansoddwr o Rhosllanerchrugog, Caradog Roberts, ac a gafodd ei pherfformio yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy’n ddiweddar. Sgwrsio am brosiect creadigol newydd sy'n ail-ddychmygu cerddoriaeth draddodiadol Cymru mae'r trwmpedwr Tomos Williams. Ac mae sylfaenwydd a chyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Iris, Berwyn Rowlands, yn galw heibio i drafod Gŵyl Iris 2025, yn ogystal ac edrych ymlaen at nodi 20 mlynedd ers ei sefydlu y flwyddyn nesaf.
Programme Website