ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,19 Oct 2025,27 mins

19/10/2025

Yfory Newydd

Available for 16 days

Cyfres newydd o Yfory Newydd, y tro hwn yn dangos gwaith cyffrous gwyddonwyr Cymru yn y gofod ac ar y ddaear wrth geisio creu ynni glân. A sut mae mynd â syniadau newydd gwyddonwyr ifanc a'u troi yn bethau defnyddiol i'r dyfodol. Mae'r ail rhaglen a'i thraed ar y ddaear yn edrych ar y problemau ynni sydd ganddo ni wrth wynebu newid hinsawdd - a'r galw am ffyrdd gwell na thanwydd ffosil i roi egni i ni. Mae Dr Jason Bain yn paratoi i drawsnewid pwerdy Penfro er mwyn defnyddio heidrogen - ac yn y cyfamser i geisio casglu a storio y carbwn diocsid sydd yn cael ei ryddhau mewn gorsaf bwer nwy. Lan yn Ynys Môn mae prosiect Morlais ar y gweill yn defnyddio dulliau naturiol o greu yr egni sydd ei angen. Yno fe fydd Dr John Idris Jones a Sarah Levitt yn dangos beth sydd ar waith.

Programme Website
More episodes