ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,26 Oct 2025,27 mins

26/10/2025

Yfory Newydd

Available for 23 days

Cyfres newydd o Yfory Newydd, y tro hwn yn dangos gwaith cyffrous gwyddonwyr Cymru yn y gofod ac ar y ddaear wrth geisio creu ynni glân - a sut mae mynd â syniadau newydd gwyddonwyr ifanc a'u troi yn bethau defnyddiol i'r dyfodol. Yn y drydedd rhaglen - gwyddonwyr y dyfodol - myfyrwyr sydd yn ymchwilio i amryw o feysydd yn cael y cyfle i gyflwyno eu gwaith yng nghynhadledd ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yr uchelgais i bob gwyddonydd sy'n ymchwilio i syniad newydd yw gweld y syniad hwnnw yn cael ei wireddu ac yn helpu pobol a diwydiant yn y pendraw. Ac i orffen y rhaglen, fe fyddwn yn ymweld â Dr Carys Lloyd, ymgynghorydd sydd yn edrych ar brosiectau ymchwil newydd a'u trawsnewid yn brosiectau yn y byd go iawn. Byddwn yn cyfarfod Carys yn labordy Cavendish yng Nghaergrawnt. Dyma lle y gwnaeth cymaint o ddarganfyddiadau y gorffennol ddigwydd. Darganfod yr electron, a'r proton, a'r niwtron - yr atom. Dyma lle gwnaeth Watson, Crick a Franklin, ddarganfod strwythur DNA - a dyma lle bu gwyddonwyr amlycaf y byd yn gweithio gan gynnwys nifer o Gymru - Evan James Williams, Charles Wynn Williams a Sam Edwards. Bu Carys ei hunan yn ymchwilio yno ac mae hi yn mynd â ni o gwmpas rhai o'r arddangosfeydd.

Programme Website
More episodes