Episode details

Radio Cymru,02 Nov 2025,56 mins
Nofel newydd am y byd cerdd dant, drama am hanes Coch Bach y Bala, a diogelu celf yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Ffion DafisAvailable for 30 days
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn ymweld â Theatr Clwyd ac yn sgwrsio gyda rhai o griw cynhyrchiad 'The Red Rogue of Bala'. Mae'r awdur, yr actor a’r cyfarwyddwr cerdd a theatrig Cefin Roberts newydd gyhoeddi ei bedwaredd nofel, sef 'Dant am Ddant', ac yn galw heibio'r stiwdio i'w thrafod. Adolygu opera newydd sbon 'Bwci Be?' mae'r athrawes gerdd Bethan Antur, tra bod Sian Shakespear newydd gyhoeddi, ar ei liwt ei hun, bamffled o gerddi yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd. Â ninnau ar drothwy Sul y Cofio, mae Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn sgwrsio am ran y Llyfrgell yn gwarchod gweithiau celf o bwys yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Programme Website