Episode details

Available for over a year
Mae ffermwyr wedi cael blwyddyn galed. Roedd y llynedd yn wlyb, a’r cnydau yn diodde o’r herwydd. Ar ben hynny, mae’r gaeaf wedi bod yn hir a llwm ac amaethwyr wedi gorfod dygymod ac afiechydon fel TB a Schmallenberg, cyn yr ergyd ola o eira trwm y mis diwetha. Mae degau o filoedd o ddefaid ac wyn wedi eu colli mewn lluwchfeydd. Yn y rhaglen, mi fydd Sian Pari Huws yn clywed am effaith hyn oll ar yr economi wledig ac ehangach ac yn gofyn a fydd yn rhaid i amaethyddiaeth newid i ddygymod a’r hinsawdd.
Programme Website