Episode details

Radio Cymru,1 min
Available for over a year
Y Streic Ma’r llofft ma’n llawn o lanast Yn wir mae golwg mawr, Dilladau glân a budur Yn gymysg ar y llawr. Ac nid yw’r stafell molchi Ers oes ‘di cael ei thrin, Dim tywel sych yn unman Na dim i sychu’ch tin. Dwi’n gwisgo’n nillad isa Ers wythnos bob yn ail, A wir dwi’n dechrau drewi Yn waeth na thomen dail. Mae’r llestri’i gyd yn fudur Cypyrddau’n wag i gyd, Dim prydau ar fy nghyfer A dweud y gwir- dim byd. I adfer trefn fy mywyd A’m hachub rhag cael cam, Fory dwi am gymodi I ddatrys streic fy mam. Delyth Humphreys 8.5
Programme Website