Episode details

Radio Cymru,1 min
Available for over a year
Y Streic Pymtheg oed oedd Tomos a’i fyd byth yn stopio, Roedd ei flerwch yn gyson a’i rieni ‘di blino. Sawl rhybudd a roed ond nis altrodd ei gam A’r diwrnod a ddaeth pan streiciodd ei fam. Nid oedd yn amau – ni sylwodd yr hogyn, A’i ddillad yn aros lle roeddynt yn disgyn. Ei fam wnaeth ei fwyd fel arfer i Tom, Ond y tŷ aeth yn flêr a’i stafell fwy llom. Trôns glân oedd ei angen un bore ar Tomos, Ac i’w ddrôr fel arfer aeth yn syth heb ddim aros, Ond syndod a gwae, roedd hi’n wag yn lle hael, A sut wyddai ef fod lle ‘eri’ i’w gael. Bu rhaid iddo wisgo’r hen ddillad, rhai budron Ac aeth am yr ysgol yng nghwmni cyfeillion A’u sylwadau nhw’n flin a thynnwyd ei goes Bod ‘hoglau’ nid ffres, yn achosi cryn loes. O’r diwedd fe welodd mor ffôl ei gamwri Aeth adre yn sydyn a chofleidio’i rieni. Nid taro bu’r streic ond cariad ga’dd o A’r person sy’n amau nid Tomos bob tro. Meirion Jones 8.5
Programme Website