Episode details

Radio Cymru,1 min
Available for over a year
Y Streic. Ceisio stwffio dwy Ddorito 'mewn i'w weflau ydoedd Meic Ond fe fethodd.Yna sylwodd fod ei geg 'di mynd ar streic Yr hen sothach âi ddim pellach.Meic a welodd gyda rheg Ddannedd pygddu yn picedu mewn dwy res tu mewn i'w geg Er eu safiad a'u hymrwymiad roedd 'na wendid yn eu plan Un o'r cyfryw sydd hyd heddiw mewn canal yn Amsterdam Meic, mewn eiliad, gafodd syniad, nol y stwnsiwr a wnaeth o A Chawl Cennin a dau bwdin aeth drwy'r twll i'w geg drwy sdrô Dyma drafod efo'r tafod er mwyn gwneud yn hollol siwr Fod y twll ar gau i bopeth arwahan i de neu ddwr Galwyd Dafydd Wyn y deintydd, (Gŵr o'r De a gŵr o dras ) Er mwyn trafod a chymodi, ac fe wnaeth ei orau glas Fe resymodd, fe ymbiliodd, fe gynnigiodd foddion gras Yna dant-odd ac fe wylltiodd " Pawb n'ôl mewn ! neu bydd pawb mas! O ganlyniad i'r bygythiad wele 'Brad yr Un-deg saith' Wyth o'r top a naw o'r gwaelod aeth fel llygod n'ôl i'w gwaith Roedd ei geg o fel hen biano o dan ddwylo cerddor mawr Efo nodau wedi sticio, rhai'n mynd 'fyny, rhai'n mynd lawr Gefail gelfydd Dafydd Deintydd â'u symudodd nhw bob un Ac mae Meic a'i ddannedd gosod yn cyd-fyw yn oll-gytun Jos 9.5
Programme Website