Episode details

Radio Cymru,1 min
Available for over a year
Hwiangerdd Bocsio’i phethau hogan fach y mae hi:¬ Lastig plethan pili-pala del, Bag pinc a chardiau cathod a hen ddoli – I lofft yr atig ’gân nhw fynd am sbel. Ac mae hi’n piffian chwerthin yn ei chwrcwd A chanu’r pennill eto, wrth roi llun Hen Fenyw Fach Cydweli uwch ei nenfwd: ‘Dwi ’mo’i angen nes ca’i ’mhlant fy hun!’ Mi gadwn hwnnw, gyda’r pethau bychain, Mewn tywyllwch o dan grib y to: Mae rhai meddyliau yn ein harwain Yn rhy bell i’r gors, ac am y tro Mi ganwn deg am ddimai gyda hi Gan fentro fod ’na unarddeg i ni. Myrddin ap Dafydd 9.5 Cyfanswm marciau Tir Mawr: 56
Programme Website