ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cân Bro Alaw.

Y Talwrn

Available for over a year

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell, ac ddim yn soned) Bargeinion Gan fod nifer o’n caneuon mwyaf poblogaidd [ee Elen, Trên Bach yr Wyddfa, Lawr ar lan y môr ] wedi eu gosod ar alawon oes y sgiffl meddyliwyd y byddai’n werth dwyn i gof un arall o’r alawon hynny – Putting on the Style . O’i chanu fe fyddai’r ail bennill yn gytgan. Idwal wedi meddwi yn galw yn y siop, Er mwyn sobri’n sydyn yn prynu potel bop, Gweld un fawr am buntan sef Pepsi sugar-free, Yn hefru ar ôl talu – “ a lle mae’n shiwgwr i?” Does dim i’w gael heb dalu, ond mae talu’n faich, Da yw cael pocedi sy’n ddyfnach na hyd braich. Mae’n rhaid meddwl ddwywaith pan ddaw cynigion hael – Y fargen heb ei disgwyl yw’r fargen ora i’w chael. Fe brynais docyn raffl gan y WI, Gofynnais i’r brif ddynas, “Be di’r wobr ga’i? Atebodd honno’n sychlyd, “Wel, Garddwest efo’r Cwîn.” Rwy’n falch mai’r bumed wobr ddaeth – potel fach o win. Duncan-Smith yn siarad yn waeth na dolur rhydd Dweud y gallai fyw yn iawn am wythbunt yn y dydd. Neidiwn at y cynnig, y fo sy’n deud nid ni – Fe wnaiff uchafswm cyflog ar gyfer pob MP. Nifer ein cynghorwyr ym Môn sy’n mynd yn llai, A’r deugain a oedd gennym, yn dri-deg o fis Mai Arbed dau ddeg pump y cant – mi fydd cytuno’n hawdd Pan ddaw’r deg darn ar hugain o’r Bae i’r rhain fel nawdd. John Wyn Jones 8.5

Programme Website
More episodes