Episode details

Available for over a year
Cerdd Rydd mewn mydr ac odl (heb fod dros 18 llinell): Troi a Throsi Ddaw cwsg ddim yn gynnar heno, Na'r un noson arall chwaith, Mae 'na ias oerach na'r gaeaf Fel dolur o dan y graith. Mae'r ffug dawelwch yn danchwa, A'r mudandod yn sgrech i gyd, Aeth breuddwyd yn hunllef sydyn, A'r nefoedd yn uffern fud. Mor lleddf yw nodau pob alaw, Ac mor bell, mor bell yw ddoe, Fe ddarfu'r chwerthiniad hwnnw Fel blodyn ar derfyn sioe. Daeth machlud ar ganol bore, A diwedd i ganol taith, Fe olchwyd lliwiau yr enfys Yn lân, yn y dagrau llaith. Does dim ar ôl ond atgofion syn, A gwagle oer ar obennydd gwyn. John Gruffydd Jones 9.5 Cyfanswm Marciau Tegeingl: 53.5
Programme Website